Tunelli o Newid Adroddiad Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn cael ei gyhoeddi heddiw

Ddydd Iau, 24 Ebrill 2025

Gyda’r gwaith cynllunio cywir a buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, gallai tua 25% o’r holl lysiau mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru fod yn rhai organig a dyfwyd yng Nghymru erbyn 2030.  Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n nodi canfyddiadau’r cynllun peilot ymchwil weithredu gyfranogol Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, ac yn cofnodi effaith y fenter ers ei sefydlu yn 2023.

Canfu’r adroddiad hefyd y byddai ychwanegu 3.3c y pryd y dydd at y pris a delir gan Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru yn caniatáu i 2 ddogn o lysiau organig lleol tymhorol gael eu cynnwys mewn prydau ysgol gan arwain at y manteision canlynol:

  • Byddai prynu 901 tunnell yn darparu £2.21 miliwn yn uniongyrchol i gynhyrchwyr Cymreig gyda lluosydd o 3.7, i roi amcangyfrif o £8.2 miliwn o fudd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol
  • Buddsoddiad o £552,500 mewn seilwaith
  • Mwy o gapasiti i gyflenwi a chynnydd yn incwm cyfartalog ffermydd yng Nghymru
  • Mwy o wydnwch yn y gadwyn gyflenwi
  • 74.3 o swyddi CALl ar ffermydd Cymru
  • 50 hectar o lysiau organig
  • Arbed 226 tunnell o Garbon CO2e
  • Cynnydd o 35% yn nifer yr adar mewn caeau
  • Lleihau’r ddibyniaeth ar fewnforion o wledydd sydd â risg uchel o ddioddef prinder dŵr

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn ymdrech gydweithredol i gyflenwi llysiau organig, sydd wedi’u tyfu’n lleol i ysgolion ledled Cymru.  Caiff y rhaglen ei chydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru ac mae’n gweithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys Castell Howell, Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a llu o dyfwyr brwdfrydig.

Drwy fanteisio ar y cyfle yn y farchnad yn sgil polisi Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, a thrwy gefnogi cyrff cyhoeddus i fodloni eu gofynion statudol, mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn sbardun i gynhyrchu llysiau organig yng Nghymru ac yn meithrin gwytnwch ar gyfer y dyfodol.  Mae’r gwaith hwn yn hanfodol os yw cyrff cyhoeddus o ddifrif ynglŷn â chyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ogystal â chefnogi cymunedau lleol a datblygu’r gallu i wrthsefyll siociau ac effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.

Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru ymchwilio i gaffael llysiau sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol am y tro cyntaf gyda’r ‘Cynllun Peilot Courgettes’ – prosiect peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr ac un cyfanwerthwr a ddosbarthodd bron i dunnell o courgettes i ysgolion cynradd yng Nghaerdydd drwy’r cynllun Bwyd a Hwyl yn ystod haf 2022.

Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, lansiodd y rhaglen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion ei cham cyntaf, gan weithio gyda thri thyfwr ledled Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy, gyda chefnogaeth Partneriaethau Bwyd lleol.

Gan gydnabod bod llysiau organig Cymreig yn ddrytach na llysiau sy’n cael eu tyfu’n gonfensiynol, mae’r peilot wedi talu’r bwlch yn y pris rhwng cynnyrch lleol, organig a phrisiau cynnyrch arferol. Yng ngwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan y rhaglen Pontio’r Bwlch i ehangu’r prosiect a’i gyrhaeddiad ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Ers hynny mae’r hyn a ddechreuodd fel prosiect peilot bach wedi datblygu’n fudiad ac yn 2024, fe wnaeth Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion weini 200,000 o ddognau o lysiau ffres, organig i fwy na 200 o ysgolion ledled Cymru.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Amber Wheeler: “Mae’r hyn sydd wedi’i gyflawni yng Nghymru o ran sicrhau bod llysiau organig wedi’u tyfu’n lleol yn cael eu defnyddio mewn ysgolion drwy broses gaffael cyhoeddus yn enfawr ac yn arloesol ac mae i’w briodoli i gydweithio gwych ar draws y gadwyn gyflenwi yn ogystal â chefnogaeth gan y Llywodraeth. Y peth pwysicaf yw bod anghenion tyfwyr a ffermwyr wedi cael eu rhoi wrth wraidd y prosiect. Mae angen cymaint o gymorth â phosibl arnyn nhw os ydym am drawsnewid ein cadwyni cyflenwi bwyd lleol er gwell. Y cam nesaf sydd ei angen yw buddsoddi mewn ehangu’r seilwaith ar ffermydd ac yn y cam prosesu.”

Cerrig Milltir a Gyflawnwyd

Ers i’r rhaglen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion gael ei sefydlu, mae wedi gwneud cynnydd rhyfeddol:

  • Sicrhau bod 200,000 o ddognau o lysiau organig Cymreig ar gael yn 2024
  • Yn 2024, cafodd 14 tunnell o gynnyrch organig wedi’i dyfu’n lleol ei ddosbarthu i fwy na 200 o ysgolion mewn chwe awdurdod lleol
  • Yn 2024, cymerodd 8 tyfwr ran yn y project a disgwylir i 15 gymryd rhan ynddo 2025
  • Yn ystod 2025, rhagwelir y bydd 60 tunnell o lysiau yn cael eu gweini i ysgolion ar draws 12 ardal awdurdod lleol sy’n cyfateb i 1 miliwn o ddognau o lysiau

Yn 2024, fe wnaeth y prosiect hefyd:

  • Arbed 3 tunnell o allyriadau CO2e
  • Arwain at gynnydd o 35% mewn bioamrywiaeth
  • Lleihau’r ddibyniaeth ar fewnforion o wledydd sy’n wynebu risg uchel o ddioddef prinder dŵr
  • Creu 1.2 o swyddi CALl ar ffermydd yng Nghymru
  • Cyfrannu at gynnydd o 20% yn yr arwynebedd tir a ddefnyddir i dyfu llysiau yng Nghymru tra y gwelwyd gostyngiad yng ngweddill y DU

Mae nifer y cynhyrchwyr ffrwythau a llysiau yng Nghymru hefyd wedi cynyddu’n aruthrol, sef cynnydd o 146% dros y pedair blynedd diwethaf, o 204 yn 2020 i 502 yn 2024.

Fodd bynnag, erys heriau, yn enwedig y gwahaniaeth pris rhwng llysiau organig o ffynonellau lleol a chynnyrch wedi’i fewnforio. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, Pontio’r Bwlch a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a chefnogaeth Castell Howell, mae’r prosiect wedi gallu helpu i bontio’r bwlch o ran y pris, gan sicrhau bod cost cynnyrch organig yn parhau i fod yn fforddiadwy i ysgolion ac awdurdodau lleol.

“Ni wyddom sut y bydd cyflenwad neu fforddiadwyedd ffrwythau a llysiau wedi’u mewnforio yn gwrthsefyll yr ansefydlogrwydd byd-eang cynyddol ac effeithiau newid hinsawdd,” meddai Katie Palmer sy’n arwain Synnwyr Bwyd Cymru. “Mae buddsoddi yng nghapasiti cadwyni cyflenwi lleol yng Nghymru i ddarparu ffrwythau a llysiau organig i’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas – drwy ein hysgolion, ein hysbytai a’n cartrefi gofal – yn gwneud synnwyr i economïau lleol, mae’n gwneud synnwyr i hinsawdd a natur ac yn gwneud synnwyr i sicrhau cyflenwad dibynadwy o fwyd maethlon ar gyfer cenedlaethau’r presennol a chenedlaethau’r dyfodol.”

Drwy annog tyfwyr i gyflenwi cynnyrch drwy brosesau caffael cyhoeddus drwy’r cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, mae’r cynllun wedi helpu i ddatblygu’r sector garddwriaeth yng Nghymru, gan ddarparu llu o fanteision gan gynnwys incwm gwarantedig ar gyfer y llysiau sy’n mynd i geginau ysgol.

Meddai un o’r tyfwyr, Ruth Davies: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect anhygoel hwn. Mae’n gyfle gwych i gyflenwi bwyd ffres, lleol i ysgolion lleol. Yng Ngardd Enfys, rydym hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion i ddangos i blant ble mae eu llysiau’n cael eu tyfu a’u helpu i gysylltu â’r bwyd ar eu platiau.”

Mae Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn bartner allweddol yn y cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, gan ganolbwyntio ar hyfforddi a chefnogi tyfwyr i ddarparu cynnyrch diogel o ansawdd uchel. Yn 2023, datblygwyd y ‘Safon i Gyflenwyr sy’n Dyfwyr Graddfa Fach’ hefyd i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion diogelwch bwyd deddfwriaethol.

Dywedodd Sarah Gould, Rheolwr Garddwriaeth Lantra, sy’n un o bartneriaid rhaglen garddwriaeth Cyswllt Ffermio: “Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn cynnig llwybr i’r farchnad sy’n lleihau risg, yn galluogi pobl i flaengynllunio ac yn cynorthwyo gyda thwf y sector, gan alluogi mwy o bobl i flasu’r bwyd o safon y gall Cymru ei gynhyrchu.  Drwy’r math o gefnogaeth rydym yn ei chynnig i dyfwyr, rydym hefyd yn helpu i godi safonau a rhannu arfer gorau.  Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn brosiect ysbrydoledig iawn i fod yn rhan ohono ac mae’n gyffrous gweld yr effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar y sector garddwriaeth yng Nghymru.”

Mae’r cyfanwerthwr Castell Howell wedi bod yn rhan o’r cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion o’r cychwyn cyntaf, ar ôl gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru ar y ‘Cynllun Peilot Courgettes.’  Mae cwmni Castell Howell yn deall y pwysau ar y system fwyd a pha mor fregus yw’r cadwyni cyflenwi byd-eang a’r angen i feithrin gwydnwch lleol a buddsoddi mewn cadwyni cyflenwi lleol.  Dywedodd Edward Morgan: “Dim ond drwy gydweithio y gellir ailstrwythuro’r cadwyni cyflenwi i’r sector addysg, ble mae argaeledd cynnyrch 100% o’r amser yn hollbwysig. Yn erbyn cefndir o alw cynyddol am brydau ysgol am ddim i bawb, sicrhau gwerth cymdeithasol a’r her o leihau’r effaith ar yr amgylchedd, mae’r fenter hon yn cyflawni newid ystyrlon ac rydym yn falch o fod yn un o’i phartneriaid.”

Mae Judith Gregory, Pennaeth Gwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd, a Chadeirydd Cenedlaethol LACA, wedi bod ar y daith gyda’r cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion ers ei sefydlu a dywedodd: “Gellir priodoli llwyddiannau’r rhaglen i’r ffaith bod y rhan fwyaf o wasanaethau prydau ysgol yng Nghymru yn cael eu darparu’n fewnol gan awdurdodau lleol, gan alluogi cydweithio, yn ogystal â chefnogi tyfwyr, ffermwyr a chynhyrchwyr Cymreig.”

Edrych i’r Dyfodol: Gweledigaeth ar gyfer 2030

Prif nod Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yw sicrhau bod 25% o’r holl lysiau a ddefnyddir mewn prydau ysgolion cynradd yng Nghymru yn rhai organig sydd wedi’u tyfu’n lleol erbyn 2030. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y fenter yn parhau i ehangu, a cheir cynlluniau i gyrraedd 12 awdurdod lleol erbyn 2025, gan ymgysylltu â hyd yn oed mwy o ysgolion, ffermwyr a chymunedau ledled Cymru.

Wrth i’r prosiect ehangu, mae’r adroddiad yn rhestru nifer o argymhellion gan gynnwys:

  • Mwy o gymorth i dyfwyr, gan gynnwys hyfforddiant a datblygu seilwaith.
  • Yr angen am system fwyd leol gryfach a mwy gwydn sy’n lleihau dibyniaeth Cymru ar gynnyrch wedi’i fewnforio ac yn rhoi hwb i’r economi wledig
  • Mwy o gyfleoedd i blant ddysgu mwy am fwyd ac o ble y daw, yn ogystal â chyfleoedd i staff arlwyo ysgolion ddatblygu eu sgiliau coginio llysiau

“Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yma, ond gwyddom fod llawer o waith i’w wneud o hyd,” ychwanegodd Katie Palmer, o Synnwyr Bwyd Cymru. “Mae’r gwaith hwn yn ymdrech enfawr ar y cyd ac mae ei lwyddiant yn dyst i’r egni cydweithredol a’r buddsoddiad gan nifer o randdeiliaid yng Nghymru; partneriaid yn y DU, a’n cyllidwyr.”

Gallwch ddarllen yr adroddiadau drwy glicio ar y dolenni isod:

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: Adroddiad Cryno

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: Adroddiad Llawn

Stori Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

DIWEDD