Mynd i'r cynnwys

Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr

Lansiwyd Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Ionawr 2024. Fe’i chynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gyflogi Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy llawn amser.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys rhwydwaith o bobl o ystod o sefydliadau sy’n dod at ei gilydd gyda’r dyhead i wireddu newid. Mae am fod o fudd i bawb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy sicrhau bod bwyd cynaliadwy ac iach yn hygyrch i bawb.  Mae hefd yn canolbwyntio ar ddull cydgysylltiedig cydweithredol ar draws y system fwyd gyfan.

Mae grŵp llywio Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys cynrychiolwyr o amryw o sefydliadau, gan gynnwys:

  • Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
  • Baobab Bach
  • BAVO
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Arlwyo, caffael, carbon
  • Coleg Penybont
  • Pwysau Iach Cymru Iach (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg)
  • Valleys 2 Coast – prosiectau tyfu da

Cenhadaeth

Creu Pen-y-bont ar Ogwr gynaliadwy ac iachach ar gyfer pob lefel o gymdeithas ar draws y fwrdeistref sirol gan gynnwys pob tref a dyffryn. Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau ac yn cydweithio ar draws sectorau i greu system fwyd fwy cyfartal a maethlon sy’n cynnwys sefydliadau ar lawr gwlad i ddylanwadu ar strategaeth, gan ystyried pob agwedd ar y system fwyd o dyfu, dosbarthu, coginio, addysgu, dylanwadu ar y galw, y plât cyhoeddus, llywodraethu, busnesau bwyd ac ystyried gwastraff bwyd.

Mae 12 mis cychwynnol y bartneriaeth wedi canolbwyntio ar:

  • Ymgysylltu a gweledigaeth
  • Asesiad Systemau Bwyd
  • Ymgynghori ar y System Fwyd
  • Datblygu’r System Fwyd.

Mae’r broses hon wedi galluogi’r bartneriaeth i gyd-gynhyrchu Strategaeth Bwyd Cynaliadwy ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2025-2028 a fydd yn cael ei chyhoeddi yn gynnar yn 2025.

Dyma rai o’r camau a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y bartneriaeth:

  • Mapio systemau bwyd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cynnal Gweithdy Rhanddeiliaid
  • Cynnal Uwchgynhadledd Fwyd Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Wedi gweithio gyda Bwyd a Hwyl i gyflwyno llysiau wedi’u tyfu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i’r cynllun.
  • Dosbarthu grantiau bwyd cymunedol trwy BAVO.
  • Cynnal sesiynau galw heibio ymgysylltu â’r gymuned.
  • Lansio arolwg bwyd ledled y sir.
  • Drafft cychwynnol o Strategaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cyfarfodydd grŵp llywio cyfranogol a rheolaidd
  • Ail-lansio’r rhwydwaith bwyd Cydweithredol gyda BAVO

Mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn:

  • Ymwneud â Pheilot Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, gan gyflwyno brocoli organig a dyfwyd yng Nghymru i ysgolion cynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
  • Gweithio gyda’r Cynlluniwr Lles i lansio Rhwydwaith Busnes Bwyd Cynaliadwy. Mae’r comisiwn hwn ar hyn o bryd yn ymgysylltu â busnesau bwyd lleol i lansio’r rhwydwaith newydd.
  • Cynllunio canolbwynt bwyd ar gyfer cyflenwad bwyd cymunedol gyda Rhwydwaith Bwyd Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Cydweithio â thimau menter ac economaidd o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar effaith bwyd ar yr amgylchedd.
  • Gweithio gyda Phartneriaeth Bwyd RhCT i gydweithio ar is-grŵp Bwyd Cwm Taf Morgannwg.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith sy’n digwydd ar draws y sir, cysylltwch â Lauren Saunders, Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr: Lauren.Saunders@bridgend.gov.uk