Cynhadledd Bwyd Mewn Cymunedau 2024
Yn ddiweddar, fe gynahlion ni’n cynhadledd Bwyd Mewn Cymunedau blynyddol ac eleni, fe’i threfnwyd yn Neuadd y Gweithwyr, Blaenafon. Daeth y gynhadledd ag amrywiaeth o randdeiliaid ynghyd – gan gynnwys cydlynwyr partneriaethau bwyd, aelodau’u grŵpiau llywio, cynhyrchwyr a chyfanwerthwyr bwyd, awdurdodau lleol, ymarferwyr iechyd y cyhoedd, swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ogystal â chydweithwyr o Fyrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru. Drwy gydol y dydd, bum yn cymryd rhan mewn sgyrsiau adeiladol am sut i gryfhau cydnerthedd systemau bwyd ac yn trafod sut i feithrin cydweithrediad rhwng cymunedau, cyrff cyhoeddus a ffermwyr.
Fe wnaeth y gynhadledd ganolbwyntio ar dri maes ffowcs:
- Cydnerthedd bwyd: sesiwn gyda’r Athro Tim Lang, wedi’i threfnu gan Bwyd Powys ac Our Food 1200
- Canllawiau systemau bwyd i Gyrff Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus:gweithdy mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
- Ffermio a phartneriaethau bwyd: gweithdy mewn partneriaeth gyda Bwyd Sir Gâr Food, yn edrych ar y berthynas rhwng partneriaethau bwyd a’r gymuned ffermio ehangach
Fe wnaethon ni hefyd ddathlu llwyddiannau tîm Cydnerthedd Bwyd Torfaen gan glywed am rywfaint o’r gwaith gwych sy’n digwydd ar draws y bartneriaeth fwyd, gan gynnwys dysgu mwy am Inspire+, y sefydliad a fu’n arlwyo yn ystod y digwyddiad.
Gallwch weld y cyflwyniad sleidiau llawn a ddangoswyd gennym yn y digwyddiad yma.
Bydd allbynnau’r grwpiau o’r gweithdy ar ganllawiau systemau bwyd ar gyfer Cyrff Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu postio yma cyn bo hir.
Gwyliwch fideo uchafbwyntiau o’r digwyddiad yma:
A dyma ddetholiad o luniau o’r gynhadledd: