Uwchgynhadledd Fwyd Pen-y-bont ar Ogwr ar 3ydd Hydref 2024  rhwng 10am-4pm yn Nhŷ Bryngarw, Brynmenyn, CF32 8UU.

Trefnir y digwyddiad gan Bartneriaeth Fwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer busnesau, ffermwyr, pantris, tyfwyr, llywodraeth leol, cymunedau, y GIG, elusennau ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn bwyd.

Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar y cwestiwn “Sut mae gwneud bwyd iach a chynaliadwy yn hygyrch i bawb ym Mhen-y-bont ar Ogwr?”

Ymunwch â Phartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Sgyrsiau a gweithdai ar:

Mudiad bwyd da

Arlwyo a chaffael

Bwyd iach i bawb

Economi bwyd cynaliadwy

Bwyd i’r blaned

Helpwch i lunio dyfodol bwyd a chydgynhyrchu Strategaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn rhan o waith Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr i drawsnewid Pen-y-bont ar Ogwr yn Le Bwyd Cynaliadwy.

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr ac fe’i hwylusir gan Bro.