Synnwyr Bwyd Cymru yn Y Sioe Fawr 2024

Bydd gan Synnwyr Bwyd Cymru bresenoldeb yn Sioe Frenhinol Cymru eleni yn Y Farchnad yn y Pentref Garddwriaeth.

Bydd gennym stondin o fewn ‘Y Farchand’ – Pabell y Tyfwyr – drwy gydol yr wythnos yn rhannu mwy o wybodaeth am waith Synnwyr Bwyd Cymru, partneriaethau bwyd yn ogystal â’n prosiect arloesol Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion.

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn brosiect peilot sy’n cael ei gydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n ceisio cael mwy o lysiau o Gymru wedi’u cynhyrchu’n organig i brydau ysgol gynradd ledled Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys Castell Howell, Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn ogystal â llu o dyfwyr brwdfrydig, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn helpu i gael mwy o lysiau organig a gynhyrchir yn lleol i mewn i ginio ysgol.

Byddwn yn cynnal sesiynau dyddiol o fewn Y Fachnad yn rhannu gwybodaeth am y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Byddwn hefyd yn cyflwyno sesiwn yn y Dysgubor, ddydd Mawrth, Gorffennaf 23ain am 10.30am yn y Pentref Garddwriaeth a fydd yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid y prosiect yn ogystal â chynrychiolaeth o swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd Katie Palmer o Synnwyr Bwyd Cymru hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn ar Farchnadoedd Newydd i Ffermio Cymreig yn y Dysgubor ddydd Mawrth, Gorffennaf 23 am 3pm lle bydd yn ymuno â Duncan Fisher o Our Food 1200 i drafod eu profiadau o greu marchnadoedd newydd a cadwyni cyflenwi i Ffermwyr Cymru.

Gallwch ddysgu mwy am Synnwyr Bwyd Cymru yma

Gallwch hefyd ddysgu mwy am Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion drwy ymweld â’n gwefan a thrwy wylio ein fideo esboniadol.