Cynnwys Llysiau Organig o Gymru mewn Prydau Ysgolion Cynradd yng Nghymru
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cydlynu prosiect sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.
Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Castell Howell, adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn cinio ysgol.
Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i’w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae’n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i goginio’r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny’n bosibl. Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru y gallu i ddatblygu’r farchnad er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn.
Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru ymchwilio i’r broses o brynu llysiau wedi’u tyfu’n lleol drwy’r ‘Cynllun Peilot Courgettes’ – sef cynllun peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr bwyd ac un cyfanwerthwr a lwyddodd i ddosbarthu bron i 1 tunnell o courgettes i ysgolion cynradd Caerdydd yn ystod rhaglen Bwyd a Hwyl haf 2022. Bwyd Caerdydd, sef partneriaeth bwyd lleol y brifddinas, oedd yn hyrwyddo’r cynllun peilot, gan gynorthwyo i ddod â’r holl bartneriaid ynghyd, gan gynnwys Blas Gwent, Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd ac adran deieteg iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Castell Howell.
Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd y prosiect caffael hwn i fod yn gam cyntaf Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru gan weithio gyda thri thyfwr bwyd mewn tair ardal awdurdod lleol a gyda chefnogaeth cydlynwyr y partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy. Mae’r prosiect hefyd wedi cael cymorth gan Gyngor Sir Fynwy drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Yn ystod Gwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan Pontio’r Bwlch – rhaglen a arweinir gan Sustain, Growing Communities ac Elusen Alexandra Rose – i ehangu’r gwaith ymhellach ac i greu rhwydwaith ehangach byth o arbenigedd a chymorth. Bydd y cam hwn o ymchwil gweithredol yn gweithio gyda mwy o dyfwyr bwyd ac awdurdodau lleol; yn ymchwilio sut i bontio’r bwlch rhwng costau cynnyrch confensiynol a llysiau wedi’u tyfu’n gynaliadwy yng Nghymru; a phrofi sawl dull i ganfod sut beth yw ‘cynllun buddsoddi cynaliadwy’. Y nod yw datblygu model y gellir ei ymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Drwy gefnogi ffermio organig amaeth-ecolegol, mae’r prosiect hwn yn creu ffrwd incwm newydd neu allweddol amgen i dyfwyr bwyd ac i ffermwyr, yn ogystal â chreu cyfleoedd i blant gysylltu â natur a ffermio drwy ymweld â thyfwyr bwyd lleol.
“Prif nod Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yw sicrhau bod llysiau lleol wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy yn cael eu defnyddio mewn ysgolion i ddarparu maeth i’r plant drwy brydau ysgol – y mwyaf o gynnydd y byddwn yn ei wneud, y mwyaf o fanteision y gallwn eu darparu iddyn nhw,” meddai Katie Palmer, un o reolwyr Synnwyr Bwyd Cymru.
“Nid ydym yn cynhyrchu digon o lysiau yng Nghymru ac mae angen i ni allu creu ein cyflenwad ein hunain er budd cymunedau lleol ac er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion drwy gysylltu tyfwyr bwyd lleol â chyfanwerthwyr lleol a chreu cysylltiadau sy’n helpu busnesau i ffynnu.
“Rydym wedi wynebu nifer o heriau technegol, strwythurol a heriau’n ymwneud â’r tywydd yn ystod pob cam o’r cynllun peilot ond roedd creu cysylltiadau ar draws y gadwyn gyflenwi gyda rhanddeiliaid a defnyddio eu harbenigedd ym maes garddwriaeth yn allweddol,” meddai Katie Palmer. “Roedd hynny’n amrywio o ganfod gofynion ceginau ysgol neu benderfynu moron o ba faint y dylid eu tyfu, i ddatblygu cynlluniau achredu a chyfrifo’r logisteg, cyflenwad a datblygu’r cynnyrch – roedd gennym lawer o waith i’w wneud ond mae’r holl bartneriaid wedi buddsoddi’n helaeth yn y gwaith ac yn benderfynol o weld mwy o fwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol yn cael ei weini ar blatiau’r cyhoedd yng Nghymru.”
Meddai Edward Morgan o Castell Howell: “Fel un o’r dolenni cyswllt yn y gadwyn gyflenwi, rydym yn cyflenwi bwyd i oddeutu 1000 o ysgolion ledled Cymru, ac yn cydnabod pa mor bwysig yw ailstrwythuro’r ffynonellau. Mae cydweithio â rhanddeiliaid o’r un anian, ffermwyr brwdfrydig, tyfwyr bwyd a chwsmeriaid ymrwymedig yn hollbwysig i ni allu cyflawni ein nodau cyffredin, nid dim ond o ran cyflenwi llysiau wedi’u tyfu yng Nghymru ond o ran darparu gwybodaeth a thrafod y risgiau a’r cyfleoedd mewn ffordd gwbl dryloyw. Rydym yn falch o fod yn rhan o fenter sydd wedi datblygu o gyflenwi tunnell o courgettes yn 2022 ac rydym yn edrych ymlaen at weld hyn yn parhau ac yn datblygu i fod yn rhywbeth mawr.”
Meddai Tony Little, o’r Ymgynghoriaeth Ffermio Cynaliadwy: “Mae’r prosiect hwn yn paratoi’r ffordd i lawer mwy o dyfwyr bwyd gymryd rhan yn y broses o gyflenwi’r farchnad caffael cyhoeddus. Mae’n gyfle anhygoel i archwilio sut y gallwn sefydlu cadwyni cyflenwi sy’n gweithio i bawb, yn amrywio o ddatblygu safonau cynhyrchu sy’n briodol i dyfwyr organig bach i sefydlu systemau cyfathrebu a logisteg sy’n galluogi tyfwyr bwyd i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r farchnad hon yn eu cynnig.”
Mae’r adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn rhan annatod o ddatblygu cynllun peilot Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru ac yn rhan hanfodol o ddatblygu’r sector garddwriaeth yng Nghymru.
“Mae’r gwaith hwn yn creu llwybr i’r farchnad sy’n lleihau risg, sy’n golygu bod modd cynllunio ymlaen llaw ac sy’n cynorthwyo gyda thwf y sector gan alluogi mwy o bobl i brofi ansawdd y bwyd y gall Cymru ei gynhyrchu,” meddai Sarah Gould o adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio. “Mae’r math o gymorth rydym yn ei gynnig i dyfwyr bwyd yn golygu ein bod hefyd yn helpu i godi safonau a rhannu arfer gorau. Mae’r prosiect yn un cyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi hyd yn oed mwy o dyfwyr bwyd i fod yn rhan o’r cynllun peilot.”
Mae Hannah Gibbs o Pontio’r Bwlch yn edrych ymlaen hefyd at gefnogi Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru. “Rydym yn falch o gefnogi’r cynllun peilot hwn i’w ddatblygu ymhellach ac i ychwanegu at y dystiolaeth o ran sut y gallwn sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau cynaliadwy sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol yn mynd i mewn i’r gadwyn cyflenwi bwyd gyhoeddus. Mae’r bartneriaeth anhygoel hon hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd gwych i ni ddysgu ar y cyd drwy’r cynlluniau peilot Pontio’r Bwlch mewn ysgolion eraill yn Yr Alban a Lloegr.”
Ychwanegodd Dr Amber Wheeler sy’n arwain y gwaith ymchwil ar y camau gweithredu: “Ar hyn o bryd daw’r rhan fwyaf o’r llysiau ar gyfer Ysgolion Cymru o wlad arall ac maent wedi’u rhewi fel arfer. Dengys y cynllun peilot hwn ei bod yn bosibl cynyddu faint o gynnyrch sy’n cael ei dyfu yng Nghymru, a chefnogi tyfwyr bwyd a ffermwyr drwy wneud hynny, drwy ddefnyddio marchnad y ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim Awdurdodau Lleol. Rydym yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu’r systemau sydd eu hangen i ddarparu mwy o Lysiau o Gymru sy’n iach a ffres mewn ysgolion a hynny tra’n cefnogi systemau ffermio sy’n gwella’r amgylchedd yma yng Nghymru.”
Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn chwilio am ffrydiau cyllido ar gyfer y dyfodol i allu datblygu’r gwaith hwn ar ôl mis Mawrth 2025 ac i gynnwys mwy o dyfwyr bwyd, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, gallwch gysylltu â Synnwyr Bwyd Cymru drwy e-bostio foodsensewales@wales.nhs.uk
Gallwch hefyd wylio fideo sy’n esbonio’r prosiect yma.