Mynd i'r cynnwys

Llysiau o Gymru ar gyfer ysgolion Cymru

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn brosiect peilot a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Castell Howell, adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn cinio ysgol.

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i’w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae’n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i goginio’r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny’n bosibl.   Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru y gallu i ddatblygu’r farchnad er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn.

Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru ymchwilio i’r broses o brynu llysiau wedi’u tyfu’n lleol drwy’r ‘Cynllun Peilot Courgettes’ – sef cynllun peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr bwyd ac un cyfanwerthwr a lwyddodd i ddosbarthu bron i 1 tunnell o courgettes i ysgolion cynradd Caerdydd yn ystod rhaglen Bwyd a Hwyl haf 2022.  Bwyd Caerdydd, sef partneriaeth bwyd lleol y brifddinas, oedd yn hyrwyddo’r cynllun peilot, gan gynorthwyo i ddod â’r holl bartneriaid ynghyd, gan gynnwys Blas Gwent, Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd ac adran deieteg iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Castell Howell.

Bocs Llysiau

Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd y prosiect caffael hwn i fod yn gam cyntaf Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru gan weithio gyda thri thyfwr bwyd mewn tair ardal awdurdod lleol a gyda chefnogaeth cydlynwyr y partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy.  Mae’r prosiect hefyd wedi cael cymorth gan Gyngor Sir Fynwy drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Yn ystod Gwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan Pontio’r Bwlch – rhaglen a arweinir gan SustainGrowing Communities ac Elusen Alexandra Rose – i ehangu’r gwaith ymhellach ac i greu rhwydwaith ehangach byth o arbenigedd a chymorth. Bydd y cam hwn o ymchwil gweithredol yn gweithio gyda mwy o dyfwyr bwyd ac awdurdodau lleol; yn ymchwilio sut i bontio’r bwlch rhwng costau cynnyrch confensiynol a llysiau wedi’u tyfu’n gynaliadwy yng Nghymru; a phrofi sawl dull i ganfod sut beth yw ‘cynllun buddsoddi cynaliadwy’.  Y nod yw datblygu model y gellir ei ymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Drwy gefnogi ffermio organig amaeth-ecolegol, mae’r prosiect hwn yn creu ffrwd incwm newydd neu allweddol amgen i dyfwyr bwyd ac i ffermwyr, yn ogystal â chreu cyfleoedd i blant gysylltu â natur a ffermio drwy ymweld â thyfwyr bwyd lleol.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn chwilio am ffrydiau cyllido ar gyfer y dyfodol i allu datblygu’r gwaith hwn ar ôl mis Mawrth 2025 ac i gynnwys mwy o dyfwyr bwyd, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, gallwch gysylltu â Synnwyr Bwyd Cymru drwy e-bostio foodsensewales@wales.nhs.uk 

Gallwch ddarllen mwy am y prosect yma a gallwch hefyd gwylio fideo sy’n esbonio mwy isod:

 

Y Buddion

Ry’n ni wedi cyhoeddi taflen sy’n amlinellu’r buddion Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a sut gall bobl fod yn rhan ohono.

Darllenwch y daflen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yma.

Gwybodaeth am y Tyfywyr

Ry’n ni’n ffodus iawn i fod yn gweithio gyda thyfwyr gwych ar ein prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Dyma ragor o wybodaeth am rai o’r cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan.

Alfie Dan:

Dechreuodd Alfie Dan’s yn 2021 ar 1 erw o dir ac erbyn hyn, mae ganddo 3 erw lle maent yn tyfu llysiau a ffrwythau ac yn gwerthu i’r gymuned leol mewn blychau llysiau a thrwy stondin gonestrwydd. Maent hefyd yn ymweld â marchnadoedd ffermwyr lleol i hyrwyddo cynnyrch ffres a lleol, organig.

“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn ymwneud â llysiau Cymreig mewn ysgolion, oherwydd rydym yn teimlo ei bod yn bwysig iawn bod plant yn cael llysiau ffres, lleol a thymhorol pryd bynnag y gallant, a hefyd tyfwyr bach lleol yn cydweithio i greu rhwydwaith i ddarparu llysiau ffres anhygoel. ar lefel wahanol.” Marie Pope

Am ragor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Alfie Dan neu ddod o hyd iddynt ar Facebook.

Bremenda Isaf

Ffarm iseldir o ryw 100 erw ym mhentref Llanarthne yn perthyn i Gyngor Sir Gâr yw Bremenda Isaf. Mae’r tir cyhoeddus hwn bellach yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad prawf ar gyfer menter gyffrous i dyfu ffrwythau a llysiau ffres, fforddiadwy ac o ansawdd uchel ar gyfer y plât cyhoeddus – yn ysgolion, cartrefi gofal a chaffis. Mae cnydau’n amrywio o giwcymbrau i foron ac o ysgewyll Brwsel i bwmpenni.  Mae’r fferm yn rhan o fenter o’r enw Prosiect Datblygu Systemau Bwyd a ddarperir gan bartneriaeth Bwyd Sir Gâr Food ac sy’n edrych ar sut i gynhyrchu, gwerthu, hyrwyddo a bwyta bwyd lleol a chynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin. Piers Lundt yw Prif Arddwr Bremenenda Isaf a Simon Frayne yw’r Tyfwr Cynorthwyol.

Am ragor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Bwyd Sir Gâr Food neu ddod o hyd i’r bartneriaeth fwyd ar X neu Facebook.

BonvilstonEdge:

Roedd Emma a Geraint yn arfer gweithio ym myd busnes a thechnoleg a dechreuon nhw dyfu llysiau yn ystod y pandemig Covid. Dechreuodd fel hobi ond wrth iddyn nhw ddechrau cymryd mwy o sylw o ble daw eu bwyd – afalau o Ffrainc, tomatos o Sbaen, courgettes o Chile ac ati – fe ddechreuon nhw hefyd feddwl am ôl troed carbon ac ansawdd y cynnyrch. Penderfynon nhw ddechrau rhandir ond ni allent ddod o hyd i un gerllaw. Wedi trafod gyda thirfeddiannwr lleol oedd â naw erw, ac na allai wahanu’r cae, fe gymeron nhw gymryd y cam; prynu’r cae a gadael eu swyddi er mwyn dechrau tyfu ffrwythau a llysiau. Penderfynodd y ddau alw’r busnes yn Bonvilston Edge oherwydd yn ogystal â bod ar gyrion Tresimwn, roeddent hefyd yn teimlo eu bod yn ymylu ar y dibyn gan nad oeddent yn gwybod rhyw lawer am dyfu cynnyrch yn fasnachol. Ers hynny mae’r busnes wedi esblygu gyda 70 o goed afalau a gellyg, 80 o goed ceirios a 4 cwch gwenyn. Maent hefyd yn tyfu ystod eang o lysiau ac yn dechrau arbenigo mewn winwns, corbwmpenni, pwmpennu cnau menyn a blodfresych.

Maent yn cyflenwi’n lleol, ac yn tyfu’n gynaliadwy ac yn organig, ac mae ganddynt gynllun i gael eu hardystio’n organig ymhen dwy flynedd.

“Rydym yn gyffrous ein bod yn tyfu llysiau ar gyfer ysgolion oherwydd mae’n bwysig bod plant yn cael bwyd maethlon ac yn gwybod o ble mae’n dod. Bwyd iach, plant iach, Cymru iach.” Geraint Evans

Am ragor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Bonvilston Edge neu ddod o hyd iddynt ar Facebook ac Instagram.

Fferm Langtons:

Mae Fferm Langtons yn cael ei rhedeg gan Katherine a David Langton sy’n cyflenwi bocsys llysiau organig lleol i ochr ddwyreiniol Bannau Brycheiniog o’u gardd farchnad yng Nghrucywel. Yn ddiweddar, maent wedi ehangu eu cynhyrchiad llysiau organig i gynnwys eu fferm ger Aberteifi a fydd yn tyfu llawer o ffrwythau a llysiau ar gyfer eu bocsys llysiau, ar gyfer cyfanwerthu, ac i’w cyflenwi i ysgolion Cymru.

“Rwy’n gyffrous iawn i fod yn rhan o brosiect llysiau i ysgolion Cymru, mae’n golygu bod bwyd gwych yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf, sef cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n gobeithio y gallwn eu hysbrydoli nid yn unig i fod yn angerddol am fwyta bwyd iach, sy’n ystyrlon o’r amgylchedd, ond hefyd i fod yn ffermwyr a thyfwyr y dyfodol a fydd yn bwydo pob un ohonom yn eu tro.” Katherine

Am ragor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Fferm Langtons neu ddod o hyd iddynt ar Facebook ac Instagram.

Fferm Laeth Holden

Bwlchwernen Fawr yw cartref Holden Farm Dairy, gwneuthurwyr caws Hafod. Mae’r fferm organig 300 erw wedi’i lleoli ar fryn hardd rhwng Mynyddoedd Cambria ac arfordir Ceredigion, Gorllewin Cymru. Maent yn datblygu’r fferm fel llwyfan addysgiadol ac yn cynnig cyfleusterau ar gyfer ymweliadau fferm, gan gynnwys llety yn ogystal â gwerthu caws a chig organig. Eleni, maen nhw hefyd yn tyfu moron yn benodol ar gyfer y prosiect Llysiau Cymreig mewn Ysgolion.

I gael rhagor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Fferm laeth Holden.

Fferm Underwood

Kate & Calum sy’n rhedeg Underwood Farm ac maent yn cyflogi dau aelod ychwanegol o staff. Wedi’i lleoli ym mharc cenedlaethol Sir Benfro, mae’r fferm yn tyfu amrywiaeth eang o lysiau cymysg ac yn gwerthu i fwytai, caffis a siopau lleol, gan arbenigo mewn dail cymysg. Mae’r fferm hefyd yn cynnal cynllun bocsys i gartrefi yn yr ardal.

“Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o’r prosiect hwn i ddod â llysiau Cymreig ar blatiau yn ysgolion Cymru. Mae’n rhoi gwir werth ac ystyr i’r ymdrechion a wneir i ffermio’r cnydau hyn i wybod y byddant yn bwydo pryd iachus maethlon i blant. Mae’n arbennig o werth chweil – gweithio ochr yn ochr â ffermydd eraill Cymru i gynhyrchu a chyflenwi cymysgedd o wahanol lysiau y gellir eu tyfu yng Nghymru.”

I gael rhagor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Fferm Underwood neu ddod o hyd iddynt ar Facebook ac Instagram.

Gardd Enfys

Mae Ruth Davies o Fferm Coedmor yn rhedeg ein busnes garddwriaethol ar y cyd â Gardd Enfys, gardd gymunedol y maent wedi’i sefydlu ar eu tir.

Maent yn tyfu llysiau, perlysiau, ac amrywiaeth o gnydau grawnfwyd gan gynnwys ceirch, haidd, llin ac eleni, yn rhoi cynnig ar Amaranthus. Mae Coedmor hefyd yn fferm gymysg gyda glaswelltir i lawr i wndwn llysieuol ar gyfer eu defaid, Gwartheg Henffordd pedigri, asynnod, geifr ac Alpaca.

Mae Ruth yn cynnal amrywiaeth o weithdai addysgol a chysylltiadau ag ysgolion lleol, grwpiau cefnogi gofalwyr. Mae gweithgareddau’n cynnwys ail-sgilio pobl mewn tyfu cynaliadwy traddodiadol, cadw ac ailddysgu hen sgiliau fel gwneud helyg, cynhyrchu llin i liain, cadw a phiclo cynnyrch tymhorol.

Mwy am y partneriaid

Synnwyr Bwyd Cymru

Logo Synnwyr Bwyd CymruSynnwyr Bwyd Cymru sy’n cydlynu’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Wedi’i sefydlu yn 2018, datblygwyd Synnwyr Bwyd Cymru er mwyn gwireddu ymagwedd draws-sector at y system fwyd yng Nghymru. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisi a Llywodraeth ledled Cymru i greu system bwyd a ffermio sy’n dda i bobl ac yn dda i’r blaned. Rydym am ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus.  

Castell Howell

Castell Howell yw un o gyfanwerthwyr bwyd annibynnol mwyaf y DU. Wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin, mae gwreiddiau’r cwmni wedi’u plannu’n gadarn yn yr economi wledig ac mae’n gwerthfawrogi pwysigrwydd cydweithio â’r gadwyn gyflenwi a gweithio gyda phartneriaid ar brosiectau arloesol a fydd â’r gwaddol hir dymor ar gyflenwi bwyd i arlwywyr y sector cyhoeddus a phreifat.

 

 

Garddwriaeth Cyswllt Ffermio 

Mae Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn cael ei redeg gan Lantra Cymru ac mae wedi helpu’r prosiect drwy ddwyn ynghyd rwydwaith o dyfwyr llysiau organig, masnachol bach, prynwyr ac awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn awyddus i helpu i gael effaith gadarnhaol ar brosesau caffael cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Garddwriaeth Cyswllt Ffermio wedi darparu rôl ragweithiol a chefnogol i brosiect Llysiau Cymru mewn Ysgolion, drwy bontio’r bylchau yn y gadwyn gyflenwi. Rydym wedi creu safonau; proses sicrwydd symlach, sy’n grymuso tyfwyr i gyflenwi bwyd ffres iach a diogel gan wybod eu bod yn bodloni’r rheoliadau a’r safonau a ddisgwylir gan gaffael cyhoeddus a phrynwyr eraill.

Mae’r gwaith wedi helpu i roi hyder i’r prynwyr (cyfanwerthwyr) ac awdurdodau lleol yn y tyfwyr a’u cynnyrch ac yn eu helpu i gynnal safonau ar gyfer eu harchwiliadau hefyd.

 

Partneriaethau Bwyd Lleol

Logo Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Mae partneriaethau bwyd yn dod â phartneriaid o amrywiaeth o wahanol sectorau at ei gilydd i helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wrth iddynt ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb. Mae partneriaid fel arfer yn cynnwys cyrff cyhoeddus fel Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yn ogystal â rhanddeiliaid ymroddedig eraill fel sefydliadau gwirfoddol, elusennau, busnesau bwyd, manwerthwyr, cyfanwerthwyr, tyfwyr a ffermwyr.

Mae Partneriaethau Bwyd Lleol yn cefnogi datblygiad y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion gan ddefnyddio’u gwybodaeth leol i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd. Mae gan gydlynwyr y Partneriaethau Bwyd y wybodaeth a’r cysylltiadau lleol i allu recriwtio tyfwyr newydd i’r cynllun yn ogystal â bod yn allweddol o ran creu cysylltiadau ag ysgolion; gweithio gyda thimau Bwyd a Hwyl lleol ac ati. Mae’r cydlynwyr yn helpu i gefnogi gweithgareddau ychwanegol, cysylltiedig hefyd, fel trefnu ymweliadau â ffermydd a helpu gyda gwerthusiad y prosiect.

 

Mwy am ein cyllidwyr

Pontio’r Bwlch:

Mae prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Pontio’r Bwlch – rhaglen a arweinir gan SustainGrowing Communities ac Elusen Alexandra Rose.

Ar hyn o bryd mae bwyd sydd o les i bobl ac i’r blaned, sydd o fudd i gymunedau ac sy’n cefnogi bywoliaeth o safon, yn ddrytach na bwyd sy’n wael i iechyd ac wedi’i gynhyrchu mewn ffyrdd sy’n niweidio’r blaned. Mae Pontio’r Bwlch yn awyddus i newid hynny drwy bontio’r bwlch rhwng cymunedau ar incwm isel ac anghydraddoldebau iechyd, gyda bwyd fforddiadwy sy’n gyfeillgar i’r blaned sy’n galluogi pawb i fwynhau system fwyd iach, gyfiawn a chynaliadwy.

Mae Pontio’r Bwlch yn ymchwilio i’r systemau ariannol mwyaf effeithiol a all greu mynediad i fwyd amaeth-ecolegol/organig i bobl ar incwm isel. Mae’r rhaglen yn cyflwyno cyfres o brosiectau peilot ledled y DU sy’n dangos y polisïau a’r systemau ariannol a fyddai’n pontio’r bwlch. Bydd yr ymyriadau peilot yn canolbwyntio ar gymunedau ar incwm isel mewn ardaloedd trefol ac ar gyflenwi, prynu a manwerthu ffrwythau a llysiau organig neu amaeth-ecolegol.  Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn un o’r rhaglenni peilot hynny.

Darllenwch fwy yma.

Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru

Logo Llywodraeth CymruMae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru.  Mae’r Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol yn cefnogi busnesau mewn rhannau o’n heconomi bob dydd leol, a elwir hefyd yn Economi Sylfaenol, i ddarparu mwy o’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n ofynnol gan y sector cyhoeddus, gan helpu i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref.  Un o fwriadau’r gronfa yw cynyddu faint o fwyd o Gymru sy’n cael ei weini ar blatiau cyhoeddus. Gwneir hyn drwy gynorthwyo cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol i ennill achrediadau sydd eu hangen i gael mynediad at gadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus.  Darllenwch fwy yma.

Ariannu Ffyniant Bro trwy Gyngor Sir Fynwy

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer wedi derbyn cefnogaeth gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy a’r Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a weinyddir gan Gyngor Sir Fynwy.

Awdurdodau Lleol sy’n cymryd rhan

  1. Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  2. Cyngor Caerdydd
  3. Cyngor Sir Gâr
  4. Cyngor Sir Fynwy
  5. Cyngor Powys
  6. Cyngor Bro Morgannwg