Partneriaethau Bwyd
Synnwyr Bwyd Cymru’n cefnogi Llywodraeth Cymru i sefydlu partneriaethau bwyd ar draws Cymru
Yn ystod haf 2022, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ariannu partneriaethau bwyd traws-sector yng Nghymru fel rhan o gyfres o becynnau ymyrraeth i helpu i liniaru tlodi.
Mae’r ymrwymiad hwn bellach yn cael ei wireddu gyda £2.5 miliwn wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol ledled Cymru i gefnogi neu gryfhau’r gwaith o ddatblygu partneriaethau bwyd traws-sector gan feithrin cydnerthedd mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gyd-gysylltu gweithgarwch ar lawr gwlad sy’n ymwneud â bwyd a helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn allweddol wrth sefydlu a meithrin partneriaethau bwyd fel rhan o’i gwaith yn arwain ar y rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac mae bellach yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi gyflwyno’r cyllid hwn y mae mawr ei angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd dulliau gweithredu seiliedig ar le a’r ffordd y gall partneriaethau bwyd traws-sector lleol gefnogi cymunedau i ymateb i’r argyfwng costau byw tra hefyd yn gweithio i ddatblygu economïau bwyd lleol mwy gwydn.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn credu bod buddsoddi mewn systemau bwyd lleol cydnerth a chysylltiedig yn adeiladu ac yn cadw cyfoeth yng Nghymru – yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol – ac yn helpu i hybu cydweithio a chynwysoldeb. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym ni, fel sefydliad wedi bod yn annog ardaloedd a chymunedau ledled Cymru i sefydlu a thyfu seilwaith sy’n seiliedig ar leoedd, gan helpu i gyfrannu at ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ yn ogystal â strategaethau bwyd cymunedol ehangach sy’n bod o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau lleol ledled Cymru.
Mae partneriaethau bwyd yn dod â phartneriaid o amrywiaeth o wahanol sectorau at ei gilydd i helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wrth iddynt ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb. Mae partneriaid fel arfer yn cynnwys cyrff cyhoeddus fel Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yn ogystal â rhanddeiliaid ymroddedig eraill fel sefydliadau gwirfoddol, elusennau, busnesau bwyd, manwerthwyr, cyfanwerthwyr, tyfwyr a ffermwyr.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn cefnogi 10 aelod presennol Cymru o Leoedd Bwyd Cynaliadwy, sef Bwyd Caerdydd, Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, Bwyd RCT, Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, Bwyd Powys Food, Bwyd Sir Gâr Food, Partneriaeth Bwyd Torfaen, Bwyd Abertawe a Phartneriaeth Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd gweld carfan newydd o bartneriaethau bwyd yn dod i’r amlwg ym mhob rhan o Gymru yn cefnogi cymunedau i ymateb i’r argyfwng tlodi bwyd ac yn galluogi mynediad at fwyd iachus a fforddiadwy.
Diolch i’r cymorth ariannol pwysig hwn, bydd partneriaeth fwyd bellach yn cael ei sefydlu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cyllid yn ogystal â datblygu rhwydwaith partneriaethau, gan ddarparu cymorth a chyngor gwerthfawr i bartneriaethau newydd a phresennol.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at foodsensewales@wales.nhs.uk
I gael mynediad at adnoddau defnyddiol ar gyfer datblygu partneriaethau bwyd, cliciwch ar y teil isod.