Datganiad gan Synnwyr Bwyd Cymru: Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar yr Amgylchedd Bwyd
“Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw sy’n datgan bod deddfwriaeth newydd i gyfyngu ar werthu cynnyrch uchel mewn braster, siwgr a halen am brisiau rhatach dros dro, ac i gyfyngu ar eu lleoliad mewn siopau, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.
Mae tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod hyrwyddo prisiau cynhyrchion nad ydynt yn iach yn arwain at gynnydd yn y braster, siwgr a halen a fwyteir ac yn y pen draw yn arwain at bobl yn prynu mwy nag y byddent fel arall.
Gyda’r ddeddfwriaeth newydd hon yn cael ei chyflwyno, mae’n hanfodol bod manwerthwyr nawr yn ystyried sut y gellid defnyddio hyrwyddiadau prisiau i wneud bwydydd cyfan a phrif fwydydd – fel ffrwythau a llysiau – yn fwy fforddiadwy yn ystod yr argyfwng costau byw, gan hefyd sicrhau bod ffermwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch.”