Ymgyrch Hawl Plant i Fwyd
Mae’r ymgyrch Hawl Plant i Fwyd yn fenter ar draws y DU a sefydlwyd i sicrhau bod pob plentyn yn y DU yn gallu cyrchu a fforddio bwyd da. Cafodd ei siapio gan ganfyddiadau Ymholiad Dyfodol Bwyd Plant (y Children’s Future Food Inquiry) dan arweiniad Llysgenhadon Bwyd Ifanc o bob rhan o’r DU, ac wedi’i gydlynu gan y Food Foundation.
Mae’r ymgyrch yn galw ar Lywodraethau i fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd plant ac anghydraddoldebau mewn gordewdra plentyndod, ac mae’n cyflwyno ei gweledigaeth yn y Siarter #HawliFwyd.
Lansiwyd yr Ymholiad Dyfodol Bwyd Plant yn 2018 fel yr ymgais gyntaf i siarad yn uniongyrchol ac yn systematig â phlant, pobl ifanc a’r rhai sy’n byw ac yn gweithio gyda nhw am brofiad plant o fwyd a sut mae’n effeithio ar eu bywydau. Arweiniwyd yr ymchwiliad gan bwyllgor seneddol trawsbleidiol a’i gefnogi gan bartneriaid ym mhob un o’r cenhedloedd datganoledig: Synnwyr Bwyd Cymru, Plant yng Nghymru, Children in Scotland a Children in Northern Ireland.
Sefydlodd yr ymchwiliad hwn fod 160,000 o blant yn byw yng Nghymru nad ydynt yn gallu fforddio’r diet a argymhellir gan y Llywodraeth. Cyhoeddwyd adroddiad cychwynnol wedi hynny, yn dwyn y teitl “What young people say about food” a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion. Yng Nghymru, ym mis Mai 2019, cyflwynodd Synnwyr Bwyd Cymru, ynghyd â’r Llysgenhadon Bwyd Ifanc o Ysgol Uwchradd Prestatyn, ganfyddiadau’r ymchwiliad a’u siarter i’r Prif Weinidog. Amlinellodd hyn gynllun i fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd plant ac amddiffyn hawl pob plentyn i fwyd trwy bolisïau wedi’u targedu.
Mae pandemig Covid-19 wedi taflu miliynau o blant yn bellach i mewn i ansicrwydd bwyd, ac roedd llawer ohonynt eisoes yn ei chael yn anodd sicrhau diet da. O ystyried mor fawr yw’r her a phwysigrwydd iechyd a diet plant, mae’r darpariaethau a gyflwynir yn y siarter wedi’u diweddaru i ddarparu map ffordd ar sail tystiolaeth i’r llywodraeth sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at ddiet iach. Mae yna friff newydd i gyd-fynd â’r Siarter, gyda chefnogaeth Synnwyr Bwyd Cymru, sy’n tynnu sylw at feysydd lle mae angen rhoi sylw brys i bolisi ar draws pedair gwlad y DU.
Mae’r Siarter hefyd yn llywio gwaith y Tasglu ‘End Child Food Poverty‘ – cynghrair o fusnesau ac elusennau dan arweiniad y pêl-droediwr Marcus Rashford. Ers mis Medi 2020, mae’r Tasglu wedi ymgyrchu i’r Llywodraeth ehangu a gwella rhaglenni bwyd plant yn unol ag argymhellion o Ran 1 y Strategaeth Fwyd Genedlaethol. Er bod cynnydd wedi’i wneud, mae’r alwad ar y Llywodraeth i ehangu cymhwysedd i Brydau Ysgol Am Ddim i fwy o blant difreintiedig yn dal heb ei hateb.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i gefnogi gwaith yr ymgyrch Hawl Plant i Fwyd yng nghyd-destun y DU ac i ddylanwadu ac eirioli Llywodraeth Cymru ynghylch yr angen i weithredu newidiadau i bolisi a fydd yn sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ar y cyd â Chynghrair Gwrth-dlodi Cymru.