Fy Nghymuned Fwyd: Fy Stori
Louise Denham yw Cydlynydd Bwyd y Fro, partneriaeth fwyd leol ym Mro Morgannwg, De Cymru, sy’n rhan o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.
Fel partneriaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau ymrwymedig, mae Bwyd y Fro yn gweithio i adeiladu system fwyd iach a chynaliadwy sy’n ffynnu yn Ardal yr Awdurdod Lleol. Mae gwaith Louise Denham yn cydlynu’r gweithgaredd hwn yn rhan annatod o lwyddiant y bartneriaeth, a’r llynedd, rhoddwyd Statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i Fro Morgannwg, sy’n anrhydedd clodfawr i gydnabod gwaith arloesol i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.
Yn gydlynydd, hwylusydd a chynullydd profiadol, mae Louise eisoes yn arweinydd bwyd gweithredol, ond roedd y ffaith iddi ddechrau ei rôl gyda Bwyd y Fro yn ystod y pandemig yn golygu y bu cysylltu ag eraill yn fwy heriol nag yr oedd wedi ei ddisgwyl. Pan ddaeth y cyfle i gymryd rhan yn Fy Nghymuned Fwyd, sef rhaglen arweinyddiaeth bwyd wedi’i harwain gan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes, neidiodd Louise at y cyfle i ddysgu; i feithrin rhwydweithiau newydd ac i ddatblygu ei sgiliau ymhellach.
“Daeth cwrs arweinyddiaeth Fy Nghymuned Fwyd ar amser delfrydol i mi – roeddwn newydd ddechrau mewn swydd newydd yn cydlynu Partneriaeth Fwyd y Fro yn ystod cyfnod lle roedd y pandemig Covid-19 wedi amharu’n fawr ar weithgaredd cymunedol ac ymdrechion sefydliadau,” meddai Louise. “Roedd pob dim wedi symud ar-lein – roedd gweithio o gartref a chysylltu â phobl a grwpiau eraill yn y mudiad bwyd da yn anodd. Pan gefais e-bost yn fy ngwahodd i wneud cais i fod yn rhan o gwrs Arweinyddiaeth Bwyd newydd a ddyluniwyd i feithrin gwybodaeth, datblygu sgiliau arweinyddiaeth a chysylltu ag eraill sy’n hyrwyddo bwyd da ledled y DU, roeddwn yn barod iawn i gynnig fy hun.”
Mae Fy Nghymuned Fwyd yn rhaglen arweinyddiaeth garlam i drefnwyr bwyd cymunedol ac mae’n canolbwyntio ar ‘hyrwyddo bwyd da’ yn y gymuned drwy fwyd sy’n dda i’r hinsawdd, i natur ac i iechyd. Dyluniwyd y rhaglen sy’n flwyddyn o hyd i ysbrydoli a chefnogi aelodau i feithrin gwybodaeth – dysgu ar y cyd ac yn unigol – a chael mynediad at adnoddau defnyddiol. Mae hefyd yn galluogi aelodau i gysylltu ag eraill sy’n hyrwyddo bwyd da yn eu cymunedau, ac i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, gan eu grymuso i gymryd camau ac arwain newid cadarnhaol ar gyfer bwyd da.
“Roedd y cyfle i gysylltu ag eraill yn werthfawr iawn i mi, ac roeddwn yn gallu gweld yr amrywiaeth o randdeiliaid a oedd yn rhan o’r system fwyd leol yn y Fro yn cael eu hadlewyrchu yng nghyfranogwyr eraill y cwrs,” meddai Louise. “Rhoddodd hyn ddealltwriaeth dda i mi o sefyllfaoedd y rhanddeiliaid hyn a’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu, a bu o gymorth i mi ddeall y ffordd orau o ymgysylltu â nhw mewn ffordd a oedd yn defnyddio’r gorau o’r hyn y gallem ni oll ei gynnig gan barchu’r ffaith y gallai eu capasiti fod yn gyfyngedig.
“Mae’r sesiynau Dysgu ac Ysbrydoliaeth hefyd wedi cael effaith sylweddol ar fy ngwaith fel cydlynydd Bwyd y Fro, ac maent yn cysylltu’n agos â’r her o sut i dyfu mudiad bwyd da lleol – her y mae partneriaethau bwyd ledled y DU yn ei hwynebu.”
Mae Fy Nghymuned Fwyd yn rhaglen blwyddyn o hyd ac, yn ei blwyddyn gyntaf, cymerodd 47 o ddysgwyr ran ynddi. Eleni (2022-23), mae mwy fyth o arweinwyr cymunedol wedi cymryd rhan, gyda 77 o gyfranogwyr o bob cwr o’r DU.
Rhoddir Grant Gweithredu ar Arweinyddiaeth i bawb sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Fy Nghymuned Fwyd i redeg prosiect a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned a rhoi’r hyn y maent yn ei ddysgu ar waith.
Penderfynodd Louise ddefnyddio’r grant i ariannu gŵyl ym Mro Morgannwg, i ddod â budd i’r ardal leol yn ogystal â’i galluogi i ddefnyddio’r hyn a ddysgodd yn ystod rhaglen a rhoi hynny ar waith.
“Fe wnaeth y cyllid grant sydd ar gael drwy’r rhaglen hon ein galluogi i gynnal ail Ŵyl Fwyd y Fro, ar ôl cynnal cynllun peilot o’r prosiect y flwyddyn flaenorol. Roedd yr ŵyl yn cynnwys casgliad o weithgareddau lleol wedi’u harwain gan y gymuned a busnesau, a geisiodd ymgysylltu dinasyddion â bwyd a thyfu a’u cael i gymryd rhan yn y mudiad bwyd da ym Mro Morgannwg. Galluogodd y grant i ni fuddsoddi yn y gweithgareddau hyn a dangos ein bod, fel partneriaeth fwyd, wedi ymrwymo i rymuso ein cymunedau lleol drwy gael effaith gadarnhaol wirioneddol ar lawr gwlad ar y system fwyd leol,” ychwanegodd Louise.
“Efallai mai un o ganlyniadau gorau’r ŵyl oedd ei bod wedi helpu’r bartneriaeth i ddatblygu cysylltiadau gyda hyrwyddwyr bwyd lleol, a fydd yn gallu cydweithio ar yr ŵyl yn y dyfodol. Gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r ŵyl a gynhaliwyd yn 2022, rydym bellach yn cynllunio ein gŵyl nesaf yn ystod haf 2023, a fydd yn cael ei chyflwyno fel Taith Fwyd i ddenu cynhyrchwyr lleol yn y Fro i gymryd rhan.”
Mae bod yn rhan o Fy Nghymuned Fwyd wedi galluogi Louise i dyfu ac aeddfedu fel arweinydd ac i ddefnyddio ei sgiliau newydd o fewn ei hardal leol. Mae defnyddio’r Grant Gweithredu ar Arweinyddiaeth i ddatblygu Gŵyl Fwyd y Fro a’r Daith Fwyd newydd hefyd wedi dod â budd mawr i’r gymuned, gan annog pobl i ymgysylltu â gweithgareddau sy’n ymwneud â bwyd a meithrin a gwella dinasyddiaeth fwyd ledled Bro Morgannwg.
Os oes gennych ddiddordeb mewn canfod mwy am y rhaglen Fy Nghymuned Fwyd a ddarperir gan Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes, cliciwch yma.