Mynd i'r cynnwys

Bwyd Sir Gâr Food

Bwyd Sir Gâr yw partneriaeth fwyd leol Sir Gaerfyrddin, gyda’r weledigaeth o greu system fwyd ffyniannus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn yn cael ei chynnal ar draws y sir. Mae’n dod â phartneriaid o sectorau gwahanol i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb.

Mae’r partneriaid allweddol yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys:

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin
  • Cook 24
  • Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin
  • Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
  • Synnwyr Bwyd Cymru
  • Castell Howell

Mae Bwyd Sir Gâr yn aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, ac mae wedi ennill y wobr Efydd.

Mae gweithgareddau’r bartneriaeth fwyd yn cael eu goruchwylio gan Augusta Lewis, y cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a’u cefnogi gan bwyllgor llywio gweithgar sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r partneriaid allweddol.

Dysgwch fwy am waith y bartneriaeth drwy ymweld â gwefan Bwyd Sir Gâr neu drwy wylio’r fideo isod.