Bwytewch y Llysiau i’w Llethu 2022 i redeg mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
Bydd arian gan Lywodraeth Cymru’n sicrhau bod holl blant ysgolion cynradd Cymru’n gallu elwa o’r ymgyrch.
Mae’r ymgyrch gwobrwyedig ‘Bwytewch y Llysiau i’w Llethu’ i gael plant i fwyta mwy o lysiau, yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn yn Chwefror 2022. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r ymgyrch drwy ariannu rhaglen ddwyieithog i holl ysgolion cynradd ac arbennig Cymru, fydd yn cyrraedd hyd at 275,000 o blant, allan o gyfanswm o 1m ar draws y DU.
Ar hyn o bryd nid yw lefelau bwyta llysiau yn y DU yn cyrraedd argymhellion y llywodraeth. Yn ôl yr Arolwg Diet a Maeth Cenedlaethol, mae bron i draean (29%) o blant cynradd yn bwyta llai nag un gyfran o lysiau’r dydd. Yn ôl data arolwg diweddar gan Veg Power, mae 49% o blant Cymru eisiau bwyta mwy o lysiau gyda 43% yn honni bod eu rhieni’n cael trafferth eu cael i fwyta mwy o lysiau.
Ymgyrch gan gwmni CIC Veg Power, ITV, Channel 4 a Sky Media yw Bwytewch y Llysiau i’w Llethu. Mae ei ddull o ysbrydoli plant i fwyta mwy o lysiau’n cyfuno pŵer hysbysebu gyda rhaglen ysgolion. Daw ag ymdrech ar-y-cyd anferth o hysbysebu ar y teledu, selebs, uwchfarchnadoedd, cogyddion, ysgolion, cymunedau a theuluoedd.
Bydd Bwytewch y Llysiau i’w Llethu 2022 yn dychwelyd fel rhaglen dros bump wythnos o’r 28 Chwefror tan 1 Ebrill, unwaith eto wedi’i chefnogi gan ymgyrch hysbysebu £3m a noddir gan ITV, Channel 4, Sky Media a gyda chymorth gan Aldi, ASDA, Coop, Dole, Lidl, Sainsburys, Tesco a Waitrose. Bydd y rhaglen ysgolion yn lansio’n fuan ar ôl dechrau darlledu’r hysbysebion, yn ystod slotiau gwylio teuluol amser brig, gan redeg am bump wythnos, gyda gwahanol hoff lysieuyn bob wythnos. Y llynedd ar draws y DU, cyrhaeddodd yr ymgyrch 468,000 o blant o 1,800 o ysgolion cynradd ac ers ei lansio yn Chwefror 2019 mae 517m yn fwy o gyfrannau llysiau plant wedi cael eu gwerthu.
“Rydym wrth ein boddhau fod Llywodraeth Cymru’n ariannu Bwytewch y Llysiau i’w Llethu 2022 fel bod holl blant cynradd Cymru’n gallu elwa o’n rhaglen ar gyfer ysgolion. Ar ôl ein gwerthusiad o ymgyrch 2021, dywedodd ychydig dros dri chwarter (77%) o blant ei fod yn brofiad hwyl ond, yn anad dim, dywedodd bron i 60% eu bod yn bwyta mwy o lysiau o ganlyniad. Rydym ar darged eleni i gyrraedd bron i 1m o blant ar draws y DU ac yn teimlo’n gyffrous iawn am effaith barhaus yr ymgyrch ar ddiet ein plant, ar hyn o bryd ac yn y tymor hir”, meddai Dan Parker, Prif Weithredwr Veg Power.
Meddai Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Mae lleoliadau addysg yn rhan allweddol o’n strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach i leihau ac atal gordewdra. Mae’n hanfodol i ni helpu ein plant i ddeall pwysigrwydd bwyta bwydydd iach a’i wneud yn hwyl. Dyna pam ein bod yn cefnogi’r prosiect hwn drwy helpu i ddosbarthu pecynnau ymgyrch ddwyieithog i ysgolion cynradd ac uwchradd drwy Gymru gan annog plant a’u teuluoedd i fwyta mwy o lysiau a pharatoi prydau bwyd maethlon a llawn llysiau.”
“Gwyddom fod plant wedi bwyta llai fyth o lysiau yn ystod y pandemig felly mae rhaglenni fel Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn ffordd wych o hyrwyddo llysiau mewn ffordd hwyliog a chynhwysol”, meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglenni yn Synnwyr Bwyd Cymru ac aelod o fwrdd Veg Power. “Dangosodd astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd fod plant 10 ac 11 oed a holwyd yn “llai iach ar y cyfan” yn ystod y pandemig nag yn y blynyddoedd blaenorol, gyda chanran y plant oedd yn bwyta cyfrannau llysiau dyddiol i lawr o 52% yn 2019 i 41% yn 2021. Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn cynnig ffordd o apelio a rhyngweithio gyda phlant a hybu llysiau mewn ffordd ddifyr. Rwyf mor falch bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r rhaglen yng Nghymru gan sicrhau bod gan bob ysgol gynradd gyfle i gymryd rhan.”
“Ni fu erioed mor bwysig sicrhau bod ein plant yn bwyta’n dda, a’r ffordd orau o wneud hynny yw ei wneud yn hwyl. Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu wedi’i brofi i fod yn ffordd hynod effeithiol o newid dewisiadau bwyta plant ac mae ITV yn falch unwaith eto o’i gefnogi,” meddai Susie Braun, Cyfarwyddwr Pwrpas Cymdeithasol ITV.
Nodiadau i’r Golygydd
- Am fwy o wybodaeth, ebostiwch: Rebecca.Stevens@vegpower.org.uk
- Cyfryngau cymdeithasol: #EatThemToDefeatThem @VegPowerUK @ITVPurpose
Amdan Bwrpas Cymdeithasol ITV
Nod Pwrpas Cymdeithasol ITV yw defnyddio’r pŵer sydd gan ITV i ddylanwadu er gwell ar ddiwylliant drwy ddefnyddio creadigrwydd ac ehangder y dylanwad hwnnw i ysbrydoli newid da yn y byd, ac i feithrin amgylchedd gwaith cyfrifol a chynhwysol. Mae Pwrpas Cymdeithasol ITV yn cwmpasu pedair blaenoriaeth – iechyd gwell, amrywiaeth a chynhwysiant, gweithredu ar yr hinsawdd, a rhoi’n ôl – pob un ag amcanion mesuradwy eu hunain.
Yn 2019, lansiodd ITV, Channel 4 a Sky ymrwymiad £10m dros dair blynedd i gefnogi bwyta’n iach a ffordd egnïol o fyw i blant y Deyrnas Unedig.
https://www.itvplc.com/socialpurpose/overview
Amdan Veg Power
Cafodd Veg Power, Cwmni Buddiannau Cymunedol di-wneud-elw, ei sefydlu gan y Sefydliad Bwyd, Hugh Fearnley-Whittingstall, Syr John Hegarty a’r Farwnes Boycott i weddnewid faint o lysiau sy’n cael eu bwyta yn y DU. Mae’n rhedeg nifer o brosiectau creadigol i ennyn diddordeb, ysbrydoli ac ysgogi pobl i fwyta mwy o lysiau a chreu arferion bwyta da gydol oes.