£1.7 miliwn i gefnogi teuluoedd ac unigolion sy’n wynebu tlodi bwyd

Bydd cymorth hanfodol ar gael y gaeaf hwn i deuluoedd ac unigolion ar draws Cymru sy’n cael trafferth gyda chost bwyd, gyda £1.7 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (cyhoeddwd Rhafgyr 17eg 2024). Bydd y cyllid yn rhoi cymorth i’r rhai sydd fwyaf mewn angen ac yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n gweithio i atal a mynd i’r afael â thlodi bwyd yn y tymor hirach.

Bydd y cyllid yn:

  • rhoi cymorth bwyd brys i unigolion drwy helpu grwpiau lleol i storio a dosbarthu bwyd i’r bobl sydd ei angen fwyaf, tra hefyd yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd
  • cefnogi FareShare Cymru drwy brynu offer i storio a danfon bwyd ffres yn ystod misoedd y gaeaf a chynnal gweithgareddau addysg bwyd i helpu teuluoedd ac unigolion incwm isel i reoli costau cynyddol
  • chryfhau partneriaethau bwyd ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gan eu helpu i fynd i’r afael ag anghenion lleol a sicrhau bod adnoddau’n cyrraedd y rhai sy’n wynebu’r heriau mwyaf

Cafodd y cyllid a fydd ar gael ledled Cymru ei gyhoeddi heddiw yng Nghegin Hedyn yn nhref Caerfyrddin. Mae Cegin Hedyn yn ffreutur gymunedol sy’n gweithredu ar sail Talu-Beth-Fedrwch-Chi ac yn rhan o rwydwaith o sefydliadau sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd, ac sy’n gweithio gyda Phartneriaeth Bwyd Sir Gaerfyrddin, Bwyd Sir Gâr.

Mae Bwyd Sir Gâr yn gweithio’n agos gyda grwpiau a mentrau ar draws y rhanbarth i roi cymorth wedi’i dargedu i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Mae Cegin Hedyn yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at gynnyrch ffres, organig, tymhorol, gyda chynnyrch yn cael ei dyfu’n lleol yn eu Rhandir Cymunedol. Mae Bwyd Sir Gâr hefyd yn darparu llysiau a gaiff eu tyfu yn fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne i Gegin Hedyn a chynnig mentora a chefnogaeth i’r gwirfoddolwyr yn y rhandir.

Mae Cegin Hedyn yn cael ei redeg gan y cogydd Deri Reed. Dywedodd:

“Mae’r cyllid hwn yn gymorth pwysig i gymunedau fel ein cymuned ni, gan sicrhau y gallwn barhau i ddarparu prydau bwyd ffres, maethlon, i’r rhai sydd ei angen fwyaf, gan adeiladu system fwyd fwy cynaliadwy a chynhwysol yr un pryd. Yng Nghegin Hedyn, rydym yn credu yng ngrym bwyd i ddod â phobl at ei gilydd a chreu newid cadarnhaol.

“Bydd y cymorth hwn yn ein helpu i ehangu ein cyrhaeddiad, tyfu mwy o gynnyrch organig yn lleol, a chryfhau’r partneriaethau bwyd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth fynd i’r afael â thlodi bwyd yn Sir Gâr a thu hwnt.”

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio’n agos gyda Bwyd Sir Gâr a Phartneriaethau Bwyd ledled Cymru i helpu i greu datrysiadau cynaliadwy i alluogi pawb i fwynhau bwyd iach a chynaliadwy.

Dywedodd Katie Palmer o Synnwyr Bwyd Cymru:

“Drwy gryfhau ei chefnogaeth i bartneriaethau bwyd ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd meithrin gwydnwch mewn systemau bwyd lleol, o ran amrywio cadwyni cyflenwi lleol, a thrwy adeiladu a threfnu asedau a chymdeithas sifil mewn ffordd sy’n unigryw i anghenion y gymuned leol.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Ddylai neb orfod poeni am sut maen nhw’n mynd i roi bwyd ar y bwrdd. Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi bwyd a sicrhau bod cefnogaeth yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf.

“Bydd y pecyn newydd hwn o £1.7 miliwn o gyllid yn rhoi cymorth lleol i’r rhai sy’n cael trafferth gyda chostau bwyd ac yn gosod y sylfaen ar gyfer datrysiadau tymor hir i atal tlodi bwyd. Drwy gefnogi cymorth brys, addysg bwyd a phartneriaethau lleol, rydym yn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn o bob ongl.

“Mae partneriaethau bwyd lleol yn hanfodol yn yr ymdrech hon. Maen nhw’n gweithio gyda phrosiectau ysbrydoledig, fel Cegin Hedyn, sydd nid yn unig yn rhoi prydau bwyd i bobl, ond sydd hefyd yn dod â phobl at ei gilydd ac yn cefnogi’r gymuned ehangach. Mae eu hymdrechion yn dangos beth sy’n bosibl pan fydd grwpiau lleol a rhwydweithiau ehangach yn dod at ei gilydd i gefnogi’r rhai mwyaf anghenus.”

Mae’r £1.7 miliwn ychwanegol hwn yn adeiladu ar y £2.8 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i roi i helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd eleni, ac mae’n dod â chyfanswm y buddsoddiad yn y maes i dros £24 miliwn ers 2019.

DIWEDD